Canolfan Cywain
altCroeso i Cywain  - Canolfan Bywyd Gwledig Newydd Y Bala, Gogledd Cymru.

Mae Cywain yn darparu gwledd o arddangosfeydd dan do ac awyr agored sy'n dathlu sgiliau gwledig.  Mae gan Cywain galendr lliwgar o berfformiadau, sioeau a gwyliau, ynghyd ag arddangosfa o weithiau rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru.

Dros dymor yr haf cewch brofi amrywiaeth eang o weithgareddau o Ŵyl Fwyd i arddangosfa Hebogyddiaeth - bydd rhywbeth at ddant pawb!  I’r plant bach a’r rhai mwy, mae Cywain yn darparu parc chware cyffroes ac anturus newydd i’w adlonni.

Caiff y wefan hon ei diweddaru’n aml i’ch hysbysu o weithgareddau’r Ganolfan - dewch yn ôl yn fuan!

Os oes gennych unrhyw ymholiad mae croeso i chi gysylltu â ni.

Ble mae Canolfan Cywain?

Lleolir y Ganolfan ar gyrion tre’r Bala yng Ngogledd Cymru. Trowch i’r chwith yn union ar ôl Pont y Bala tuag at gyfeiriad Corwen A494. Nid yw Canolfan Cywain yn bell i’w gyrraedd mae’r pellteroedd canlynol o’r trefi hyn:

• 21 milltir o Langollen
• 28 milltir o Fetws y Coed
• 35 milltir o Wrecsam

• 47 milltir o Landudno

Pryd mae’r Ganolfan ar agor?

canolfan cywain

 

  • Dydd Llun wedi cau
  • Dydd Mawrth             10.00 – 3.00
  • Dydd Mercher            10.00 – 3.00
  • Dydd Iau                     10.00 – 3.00
  • Dydd Gwener             10.00 – 3.00
  • Dydd Sadwrn             10.00 – 3.00
  • Dydd Sul                    10.00 – 3.00